top of page

CROESO.

Croeso i wefan Anelu'n Uwch.

 

Dyma wefan ar gyfer ysgol haf, Anelu'n Uwch, fydd yn cael ei chynnal eleni yn ystod wythnos 18-22 Awst ym Mhrifysgol Bangor.

 

Mae'r cwrs yma ar gyfer unrhyw un sy'n ystyried mynd i'r Brifysgol, a heb wneud eu cais Prifysgol eto.

 

Bydd pob un sy'n cwblhau'r cwrs yn derbyn 10 credyd ar Lefel 4 (lefel blwyddyn gyntaf Prifysgol) - hwb i'r cais ffurflen UCAS.

 

Mae'r cwrs yn cael ei redeg trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig.

 

Mae'r ysgol haf AM DDIM a byddwn yn darparu bwyd a diod yn ystod yr wythnos hefyd.

 

Trefnir yr ysgol haf gan Grŵp Llandrillo-Menai, ac ariennir y cynllun peilot gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

bottom of page