top of page

Newyddion .

Crys-T Rhif 3 i Issac!

Dydd Gwener 01 Awst 2014

 

Llongyfarchiadau mawr i Issac Williams o Goleg Menai ar ennill trydydd grys-T y Coleg Cymraeg Cenedlaethol! Ddydd Llun, cyhoeddodd Anelu'n Uwch fod trydydd crys-T ar gael i'w ennill gan un person lwcus a oedd yn cofrestru erbyn amser cinio heddiw, dydd Gwener 01 Awst. Enw Issac ddaeth allan o'r het y tro hwn! 

 

Mae wythnos ysgol haf Anelu'n Uwch 2014 yn agosau, ac mae'r cyffro'n cynyddu yn ddyddiol!

 

Os hoffech chi ymuno yn y cyfle gwych hwn i ddatblygu sgiliau a serennu ar ffurflen gais UCAS, gallwch gofrestru trwy lenwi'r ffurflen ar-lein yma!

 

Mae lle i ambell un arall ar y cwrs - ewch amdani!

 

Ysgol Haf Anelu'n Uwch
Ail berson yn cael crys-T!

Dydd Llun 28 Gorffennaf 2014

 

Llongyfarchiadau mawr i Osian Owen o Ysgol Syr Hugh Owen ar ennill ail grys-T melyn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol! Yn ddiweddar, cyhoeddodd Anelu'n Uwch fod ail berson lwcus a oedd yn cofrestru erbyn dydd Gwener 25 Gorffennaf yn derbyn crys-T. Osian yw'r person lwcus hwnnw! 

 

Rŵan, mae cyfle arall i ennill trydydd crys-T - yr unig beth sydd angen i chi wneud er mwyn cael y cyfle hwn ydy cofrestru erbyn amser cinio dydd Gwener yma, 01 Awst 2014. 

 

Gallwch gofrestru trwy lenwi'r ffurflen ar-lein yma!

 

Cofiwch - mae'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru yn agosau.

 

Crys-T hyfryd i un person lwcus!

Dydd Llun 07 Gorffennaf 2014

 

Llongyfarchiadau mawr i Eleri Haf Roberts o Ysgol Gyfun Llangefni ar ennill y crys-T hyfryd yma! Wythnos yn ôl, cyhoeddodd Anelu'n Uwch fod un person lwcus a oedd wedi cofrestru erbyn dydd Gwener 04 Gorffennaf yn derbyn crys-T melyn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Tynnwyd enw Eleri allan o'r het! 

 

Cofiwch gadw eich llygaid yn agored - efallai y byddwn yn cynnig crys-T arall yn fuan iawn! 

 

Cofrestra trwy lenwi'r ffurflen ar-lein yma!

 

Brysia - does dim lle i bawb ar y cwrs hwn, ac mae'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru yn agosau!

 

Ysgol Haf Anelu'n Uwch
Gwefan Anelu'n Uwch - Ysgol Haf 2014

Dydd Llun 30 Mehefin 2014

 

Croeso i wefan byw Anelu'n Uwch - ysgol haf fydd yn cael ei chynnal ym mis Awst eleni ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r cwrs yma AM DDIM, a bydd pob un sy'n cwblhau yn derbyn 10 credyd ar Lefel 4 (sef lefel blwyddyn gyntaf y Brifysgol!).

 

Clicia ar y dewisiadau uchod er mwyn gweld mwy o wybodaeth, y rhaglen (sy'n cynnwys nifer o sesiynau cyffrous!), y siaradwyr (sy'n cynnwys nifer o bobl enwog a phrofiadol!), ac er mwyn cysylltu neu gofrestru ar gyfer y cwrs newydd yma fydd yn dy helpu di i serennu ar dy ffurflen gais i'r Brifysgol!

 

Cofrestra yma nawr!

bottom of page