top of page

SIARADWYR.

DR LLŶR GWYN LEWIS

 

Wedi ei eni yn Wrecsam a'i fagu yng Nghaernarfon, cefodd LlÅ·r ei addysg yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, Prifysgol Caerdydd, a Phrifysgol Rhydychen. Enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Caerdydd am astudiaeth o Geltigrwydd yng ngwaith T. Gwynn Jones a W. B. Yeats. Mae hefyd yn ysgrifennu'n greadigol, yn talyrna, yn ymrysona ac yn stompio, a chyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Storm ar wyneb yr haul, fis Mai eleni. Bydd ei gyfrol ryddiaith gyntaf, Rhyw Flodau Rhyfel, yn gweld golau dydd fis Gorffennaf eleni.

DR LEILA SALISBURY

 

Mae Dr Leila Salisbury yn Gynghorwr Astudio yn y Ganolfan Sgiliau Astudio ym Mhrifysgol Bangor. Graddiodd yn 2013 gyda Doethuriaeth o Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor, a maes yr ymchwil oedd cerddoriaeth draddodiadol Cymru’r ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ers Medi 2012, yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorwr Astudio, mae Leila wedi bod yn gweithio fel rhan o dîm sy’n anelu at gynorthwyo myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn ystod y broses o bontio i Brifysgol a symud ymlaen trwyddi. Mae gan Leila brofiad o astudio ac ymchwilio ar lefel israddedig ac ôl-raddedig ac mae’n cydweithio’n agos gyda staff mewn nifer o wahanol ysgolion academaidd ym maes sgiliau astudio.

LINDA WYN

Graddiodd Linda o Brifysgol Aberystwyth, cyn mynd ymlaen i ennill gradd MA yn y Gymraeg. Wedi cyfnod fel athrawes uwchradd, aeth i’r maes Dysgu yn y Gweithle, gan arwain Cynlluniau Hyfforddiant Cyngor Gwynedd.  Ers 1993 bu’n gweithio yn y maes Addysg Bellach gan ddal nifer o swyddi rheolaethol.  Yn fwy diweddar bu’n Ddirprwy Bennaeth Coleg Menai ac yn Uwch-gyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd Grŵp Llandrillo Menai. Mae bellach wedi ei phenodi’n Bennaeth Coleg Meirion Dwyfor. Bu Linda’n eistedd ar fyrddau’r Cyngor Addysgu Cyffredinol(Cymru) ac ACCAC ac mae’n Gyfarwyddwr Annibynnol ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Mae hefyd yn aelod o Banel Cynghori’r Gweinidog ar y Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg.

​DEWI WYN JONES

 

Mae Dewi yn Ymgynghorydd Gyrfa rhan amser ym Mhrifysgol Bangor, yn gyfrifol am ddisgyblaethau gwyddonol, amgylcheddol, peirianyddol a thechnolegol ynghyd â'r Ysgol Gymraeg ac Addysg. Yn ychwanegol, rhan o'i ddyletswyddau ydi cefnogi myfyrwyr cyfrwng Cymraeg y Brifysgol. Mae o wedi gweithio o fewn y sector Addysg Uwch ers 1995 ac mae ganddo brofiad blaenorol o weithio oddi fewn y sector Uwchradd ac Addysg Bellach.

LOWRI BULMAN

Mae Lowri Wyn Bulman yn gweithio i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel Swyddog Marchnata a Chyfathrebu. Gweithio ar ddigwyddiadau hyrwyddo yw ei phrif gyfrifoldeb gan gynnwys trefnu ymweliadau i ysgolion a cholegau addysg bellach a sicrhau presenoldeb y Coleg mewn digwyddiadau cenedlaethol. Graddiodd Lowri o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd gyfun mewn Cymraeg a Sbaeneg cyn mynd ymlaen i weithio fel athrawes ail-iaith yn Ysgol Gyfun Treorci.  Dechreuodd weithio ym maes Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg yn 2004 ac ers 2011 mae wedi bod yn gweithio i’r Coleg ac wedi ei lleoli yn eu swyddfa yng Nghaerdydd.

DR LLION JONES

 

Mae gan Dr Llion Jones yn agos at chwarter canrif o brofiad dysgu yn y sector addysg uwch. Yn ystod y cyfnod hwnnw, y mae wedi datblygu a chyflwyno nifer o gyrsiau arloesol trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes technoleg gwybodaeth a’r cyfryngau newydd. Mae ganddo hefyd brofiad helaeth o faes gloywi a defnyddio’r Gymraeg yng nghyd-destun gwahanol gyfryngau. Ef yw Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor.

MANON WILLIAMS

Magwyd Manon yn Rhos-y-Meirch, ond mae bellach yn byw ym Mhentre Berw. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol y Graig, Llangefni, ac yna yn Ysgol Gyfun Llangefni, cyn iddi dderbyn ysgoloriaeth i fynd i Brifysgol Cymru Bangor i astudio’r Gymraeg. Wedi iddi dderbyn gradd yn 2008, mae wedi bod yn gweithio yn rhan amser fel sgriptwraig, actores broffesiynol, ac yn cynnal gweithdai drama i ieuenctid mewn ysgolion ac yn Theatr Fach Llangefni yn ogystal â chwblhau gradd M.A. mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol. Yn 2009, derbyniodd Ysgoloriaeth i ddilyn cwrs doethuriaeth mewn sgriptio a drama ym Mhrifysgol Bangor o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bu’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Dysgu yn Ysgol y Gymraeg ac yn darlithio ym maes sgriptio a drama yn y Brifysgol. 

LIZ

SAVILLE

 

Mae Liz Saville yn gweithio fel Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd Grŵp Llandrillo Menai. Cyn hynny bu'n rheolwr ar brosiectau yn ymwneud â hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg mewn addysg ôl 14, ac yn ddarlithydd ym meysydd Busnes, Cyfathrebu, a'r Gymraeg. Mae hi wedi  gweithio fel newyddiadurwraig mewn papurau newydd lleol a chylchgronau busnes. Mae hefyd yn gynghorydd sir gyda Chyngor Gwynedd.

DIANE JONES

Graddiodd Diane Jones mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg o Brifysgol Bangor cyn cymhwyso fel athrawes Gymraeg a Saesneg. Bu’n gweithio’n Ysgol Uwchradd Ardudwy fel athrawes Gymraeg a Saesneg am gyfnod, ac yna fel Pennaeth Adran y Gymraeg. Erbyn hyn y mae’n gweithio ym meysydd Addysg Bellach ac Uwch. Y mae’n aelod o fwrdd Rheoli Cyfeillion Canolfan Dreftadaeth Cae’r Gors ac ym 2010 enillodd ysgoloriaeth i ymchwilio i ddramâu’r awdures Kate Roberts. Cyflwynwyd ffrwyth yr ymchwil eleni i Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor i’w ystyried ar gyfer gradd Ph.D. Yn ddiweddar hefyd gweithiodd fel Tiwtor Iaith i fyfyrwyr a oedd yn astudio am radd mewn Cymraeg ym Mangor. 

ELERI LLEWELYN MORRIS

 

Graddiodd Eleri mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd a bu’n gweithio 

am gyfnod fel newyddiadurwraig ac awdures. Bu un o’i llyfrau, Straeon Bob Lliw, yn llyfr gosod TGAU am flynyddoedd. Erbyn hyn mae hi’n gweithio fel cyfieithydd ar y pryd a thiwtor Cymraeg i oedolion yn Nant Gwrtheyrn a lleoedd eraill, gan ddysgu pob lefel o Cyn-Fynediad i gyrsiau gloywi.

DR CYNOG PRYS

 

Diddordebau ymchwil presennol Cynog yw cymdeithaseg iaith a dwyieithrwydd, gan arbenigo ar y defnydd o Gymraeg yn y gymdeithas sifil a’r trydydd sector yng Nghymru. Mae hefyd yn astudio’r defnydd o Gymraeg gan bobl ifanc yng Nghymru, gan edrych yn benodol ar eu defnydd nhw o iaith ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook. Yn ogystal â hyn mae'n dysgu Cymdeithaseg a theori gymdeithasegol, yn ogystal â methodoleg drwy gyfrwng y Gymraeg.

AWEN SCHIAVONE

 

Magwyd Awen ym Mhandy Tudur a derbyniodd ei haddysg ysgol yn Ysgol Bro Cernyw ac Ysgol Dyffryn Conwy. Derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn Cymraeg o Brifysgol Caerdydd, cyn ennill tystysgrif addysg o Brifysgol Bangor. Gweithiodd fel athrawes uwchradd Gymraeg a Daearyddiaeth am dair blynedd, cyn cael ei phenodi’n Uwch-Ddarlithydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz, Poznań, Gwlad Pwyl. Yn dilyn dwy flynedd o weithio dramor, cafodd ei phenodi’n Gyd-lynydd Prosiectau Canolfan Sgiliaith yn 2013. Mae Awen newydd gwblhau ymchwil MPhil ar Lenyddiaeth Plant a'r theori ôl-drefedigaethol gydag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Awen yw Prif Swyddog y prosiect Anelu'n Uwch.

JOHN ELFYN GRUFFYDD

 

Graddiodd John yn y Gymraeg a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn dilyn cwrs Diploma mewn Cyfarwyddyd Gyrfaoedd. Wedi cyfnod o weithio fel swyddog gyrfaoedd yng Ngheredigion a Gwynedd fe’i penodwyd yn Gyd-gysylltydd Gyrfaoedd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor lle mae’n gweithio bellach fel  Rheolwr Gwasanaethau i Ddysgwyr.  Mae ganddo brofiad helaeth o gynorthwyo myfyrwyr gyda phob agwedd o’u ceisiadau prifysgol. Bydd John yn cynnal y sesiwn ar Chwilio am Gwrs ac Amserlen Cais Prifysgol.

WENDY WILLIAMS

Gadawodd Wendy yr ysgol yn 16 cyn mynd i weithio'n llawn amser mewn swyddfa yswiriant.  Cyn pen blwyddyn a hanner mi oedd yn rhedeg swyddfa ac yn rheoli staff.  Yn ddiweddarach ymunodd hefo tîm budd-daliadau cyngor Môn a bu'n gweithio yno am dros 10 mynydd.  Er hyn, mae’n gweithio ym Mhrifysgol Bangor fel Cynghorwr Myfyrwyr ers bron i 7 mlynedd ac y gyfrifol am Uned Cymorth Ariannol y brifysgol.  Un o’i phrif ddyletswyddau ydi hysbysu cynulleidfaoedd am gyllid myfyrwyr. Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf mae wedi cyflwyno dros 70 o gyflwyniadau cyllid myfyrwyr.

MYFYRWYR PRESENNOL

 

 

Bydd rhai o fyfyrwyr presennol Prifysgol Bangor a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar brynhawn Llun yr wythnos.

CYFLOGWYR LLEOL

Gareth Strello - BT Cymru

Iwan Trefor Jones - Cyngor Gwynedd

bottom of page